Join Nostr
2025-07-18 12:57:22 UTC

Helen in Wales on Nostr: Dw i heb gar yr wythnos 'ma achos wnaeth golau rhybudd ymddangos sawl wythnos yn ôl. ...

Dw i heb gar yr wythnos 'ma achos wnaeth golau rhybudd ymddangos sawl wythnos yn ôl. Wnes i fynd â fo i'r garej a dudodd y peiriannydd bod problem efo'r sbardun. Sut bynnag, wnaeth y car deimlo'n iawn, felly wnaeth o ganslo'r golau rhybudd. Yn anffodus, ymddangosodd y golau eto wythnos ddiwetha' felly rhaid i'r car cael sbardun newydd.

Dw i ddim isio gyrru fo rhag ofn mae'r car yn torri i lawr. Yn ffodus dw i'n medru ymdopi heb gar am sbel, ond dw i wedi blino ar ôl yr holl gerdded wythnos 'ma.